Salaried Judges of the Employment Tribunals (England & Wales) Pre-Application Seminar 2025

The link to register is at the bottom of this page.

 

The Judicial Appointments Commission (JAC) will be launching a selection exercise in March to recruit a number of salaried employment judges (some being in Wales).

The seminar
The Judicial Office is organising a pre-application seminar that will take place online via Microsoft Teams on Thursday 20th February 2025 (5-6:15pm).

The seminar aims to help applicants be better prepared to make an application and to receive up-to-date guidance and advice on the JAC’s selection process. As well as the JAC, you will also hear from the President of the Employment Tribunals and a Regional Employment Judge.

Who should attend?
Judicial office holders and practitioners from all backgrounds (including solicitors and Chartered Legal Executives) who have five years’ legal post qualification experience are welcome to attend.

Please note though, that while the Lord Chancellor has waived the need for prior judicial experience for these salaried roles, she expects that candidates will have current or previous substantial experience of employment law.

Candidates for posts in Wales need to have an understanding, or the ability to acquire the understanding, of the administration of justice in Wales, including legislation applicable to Wales and Welsh devolution arrangements. It is expected that candidates will have a good understanding of Welsh Language.
Applications are particularly welcome from under-represented groups (women, ethnic minority candidates, disabled candidates).

For more information on the work of the Employment Tribunals click here - Work of the Employment Tribunals - Courts and Tribunals Judiciary

Further information
Here is a link to the JAC’s future vacancies page click HERE

To sign up for this recruitment campaigns alerts please click HERE

For any queries regarding the recruitment campaign/selection exercise please contact the JAC selection exercise team 236sjet@judicialappointments.gov.uk

For any queries regarding the pre-application seminar please email - JudicialHROutreachEvents@judiciary.uk  
 

Please note that although the Judicial Office will be running the pre-application seminar, the actual recruitment campaign is being done and led by the Judicial Appointments Commission.

 

The link to register is at the bottom of this page.

 

Barnwyr Cyflogedig y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) 2025


Bydd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol  (JAC) yn lansio ymarfer dethol ym mis Mawrth i recriwtio nifer o farnwyr cyflogaeth cyflogedig (gyda rhai ohonynt yng Nghymru).


Y seminar
Mae’r Swyddfa Farnwrol yn trefnu seminar cyn ymgeisio a fydd yn cael ei gynnal ar-lein trwy Microsoft Teams ar ddydd Iau yr 20fed o Chwefror 2025 (5-6:15pm).

Mae’r seminar yn anelu at helpu ymgeiswyr i baratoi’n well ar gyfer gwneud cais ac i dderbyn yr arweiniad a chyngor diweddaraf ar broses ddethol y JAC. Ynghyd â’r JAC, byddwch hefyd yn clywed gan Lywydd y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a Barnwr Cyflogaeth Rhanbarthol.

Pwy ddylai fynychu?
Mae croeso i ddeiliaid swyddi barnwrol ac ymarferwyr o bob cefndir (gan gynnwys cyfreithwyr a Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig) sydd â phum mlynedd o brofiad ers cymhwyso yn y gyfraith, fynychu.  
Dalier sylw, er bod yr Arglwydd Ganghellor wedi hepgor yr angen am brofiad barnwrol blaenorol ar gyfer y rolau cyflogedig hyn, mae’n disgwyl y bydd gan ymgeiswyr profiad helaeth, yn gyfredol neu’n flaenorol, o’r gyfraith cyflogaeth.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr am swyddi yng Nghymru feddu ar ddealltwriaeth o sut gweinyddir cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru a threfniadau datganoli yng Nghymru, neu’r gallu i feithrin y ddealltwriaeth hon. Disgwylir y bydd gan ymgeiswyr ddealltwriaeth dda o’r iaith Gymraeg.

Croesewir ceisiadau yn enwedig gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli (menywod, ymgeiswyr o gefndir ethnig lleiafrifol, ymgeiswyr sydd ag anabledd).  

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am waith y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth - Gwaith y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth - Barnwriaeth y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd

Gwybodaeth bellach
Dyma ddolen i’r dudalen JAC gyda’r wybodaeth am swyddi gwag yn y dyfodol, cliciwch YMA

Cliciwch YMA i gofrestru i gael diweddariadau am yr ymgyrch recriwtio hon

Cysylltwch â thîm ymarfer dethol y JAC gydag unrhyw ymholiadau ynghylch yr ymgyrch recriwtio/ymarfer dethol yn236sjet@judicialappointments.gov.uk

Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y seminar cyn ymgeisio, anfonwch e-bost i - JudicialHROutreachEvents@judiciary.uk  

Dalier sylw, er bydd y Swyddfa Farnwrol yn cynnal y seminar cyn ymgeisio, mae’r ymgyrch recriwtio ei hun yn cael ei gynnal a’i arwain gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.

 

When
February 20th, 2025 from  5:00 PM to  6:15 PM
Location
Online Via MS Teams
United Kingdom